Ystafell Ddosbarth 2, Y Prif Ysbyty

Room Classroom 2
Prif Adeilad yr Ysbyty
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
CF14 4XN
Rhagor o wybodaeth am yr adeilad hwn
Cysylltu â ni
Mynediad
Mae’r ystafell addysg ar y llawr gwaelod uchaf ym mloc A.
Llwybr hygyrch
Ewch yn y lifft o’r cyntedd i’r llawr uwchben (llawr gwaelod). Ewch i ben draw’r coridor i’r cyntedd mawr wrth y lifftiau, ac ewch yn y lifft i’r llawr gwaelod uchaf. Ewch i’r dde o’r cyntedd wrth y lifftiau, a dilynwch y coridor ar y dde. Dilynwch y coridor yn syth ymlaen, i’r dde a thrwy’r bwyty. Mae ystafell ddosbarth 2 gyferbyn â’r Ystafell Gyffredin.
Llwybr arall (sy’n cynnwys grisiau)
O’r cyntedd, ewch i fyny’r grisiau i’r llawr gwaelod a cherdded lawr y coridor. Ewch heibio coridorau’r cleifion allanol ar y dde a’r chwith, gan anelu at Radioleg a lifftiau bloc B.
Pan welwch y dderbynfa Radioleg ar y dde, ewch i fyny’r grisiau sydd ar y chwith i’r llawr gwaelod isaf.
Trowch i’r chwith ar ben y grisiau a cherdded i ben draw’r coridor lle byddwch yn dod o hyd i swyddfa diogelwch yr ysbyty a Darlithfa 3. Trowch i’r dde a phasio lifftiau bloc A a cherdded trwy fwyty ‘Y Gegin’ (‘Heathfields’ gynt, ac mae llawer o bobl yn dal i ddefnyddio’r enw hwn).
Wrth adael y bwyty, ewch drwy’r drysau dwbl ar y chwith i goridor yr Ystafell Addysg. Mae ystafell ddosbarth 2 ar yr ochr dde.
Cyfleusterau cysylltiedig
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: